SL(5)345 - Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi cydsyniadau o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 (“Deddf 1989”) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priodol mewn cysylltiad â hi.

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at gais am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf 1989 yn cynnwys unrhyw gais o dan adran 36A o’r Ddeddf honno am ddatganiad mewn perthynas â hawliau mordwyo cyhoeddus a wneir gyda chais am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf 1989. 

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol mewn perthynas â cheisiadau a wneir ar ôl 1 Ebrill 2019 o dan adran 36 o Ddeddf 1989 sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu (neu orsafoedd cynhyrchu arfaethedig) yn nyfroedd Cymru sydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat neu a fydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat.  

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch:

·         gwneud ceisiadau;

·         gofynion cyflwyno a chyhoeddusrwydd;

·         o dan ba amgylchiadau y mae ymchwiliadau cyhoeddus i’w cynnal; a

·         cwmpas ymchwiliadau cyhoeddus pan fo un neu ragor o awdurdodau cynllunio perthnasol. 

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff hysbysiad sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn ei gyfuno â hysbysiad sy’n ofynnol gan neu o dan Atodlen 16 i Ddeddf Ynni 2004. 

Maent hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. 

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 7(1)(b) yn nodi bod yn rhaid cyhoeddi hysbysiad o gais "...mewn un neu ragor o bapurau newydd cenedlaethol”. Fodd bynnag, wrth gyfeirio at bapur newydd cenedlaethol, nid yw'r Rheoliadau yn nodi a yw'r gair 'cenedlaethol' yn cyfeirio at Gymru neu at y Deyrnas Unedig.

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae rheoliad 5 yn darparu, pan fo ceisydd (rheoliad 5(2)) neu Weinidogion Cymru (rheoliad 5(4)) yn ystyried bod awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr neu'r Adran Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon yn debygol o fod â buddiant yn y cais, rhaid i'r ceisydd gyflwyno hysbysiad am y cais i'r corff hwnnw (rheoliad 5 (2)), neu caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yn rhaid i'r ceisydd wneud hynny (rheoliad 5(4)). Nid yw'r darpariaethau hyn yn cynnwys cyfeiriadau at gyrff cyfatebol priodol yn yr Alban nac yn Ynys Manaw. Rydym ar ddeall mai'r rheswm dros beidio â chynnwys yr Alban yn y darpariaethau hyn yw'r pellter rhwng dyfroedd Cymru a'r Alban. Fodd bynnag, mae'r rhesymeg ynghylch pam nad yw Ynys Manaw wedi'i chynnwys yn y darpariaethau hyn yn aneglur.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Mawrth 2019